"Fel y mae'n ysgrifenedig: "Nid oes neb cyfiawn, nac oes un."   At y Rhufeiniaid 3:10

   "Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw."   At y Rhufeiniaid 3:23

   "Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd."   At y Rhufeiniaid 6:23

   "Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid."   At y Rhufeiniaid 5:8

   "Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddo."   Ioan 3:16

   "Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder."   1. Ioan 1:9

   "Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.  Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth."   At y Rhufeiniaid 10:9-10

   "Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw."   Ioan 1:12

   "Dywedodd Iesu wrtho, "Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dod at y Tad ond trwof fi."   Ioan 14:6

   "Oherwydd fel y mae'r Tad yn codi'r meirw ac yn rhoi bywyd iddynt, felly hefyd y mae'r Mab yntau yn rhoi bywyd i'r sawl a fyn."   Ioan 5:21

   "Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw;  nid yw'n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio."   Ephefiaid 2:8-9

   "Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd.  Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; iddo gael ei gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau."   1. Corinthiaid 15:1,3-4

   "Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iachâd. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn."   Iaco 5:16

   Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw. Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw."   1. Ioan 4:7-8

   "Ond yr ydych chwi, gyfeillion annwyl, yn gwybod am y pethau hyn eisoes. Byddwch ar eich gwyliadwriaeth, felly, rhag ichwi gael eich ysgubo ymaith gan gyfeiliornad rhai afreolus, a syrthio o'ch safle cadarn.  Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o'n Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist. Iddo ef y bo'r gogoniant yn awr ac am byth! Amen."   2. Petr 3:17-18